Mae lle unigryw i rygbi ym mywyd Cymreig. Ein cenhadaeth yw defnyddio rygbi i helpu i
ymgysylltu disgyblion yn yr ystafell ddosbarth trwy ein llwyfan digidol newydd, gan
ddarparu tasgau cyfoethog yn seiliedig ar y ‘Cwricwlwm Newydd’ trwy gyfrwng rygbi.
Er ein bod yn ‘addysgu’ hyfforddwyr, dyfarnwyr, chwaraewyr, gwirfoddolwyr – nid
‘addysgwyr’ ydym ni. Fe wnaethom siarad ag addysgwyr ‘go iawn’; athrawon,
penaethiaid a chonsortia addysg er mwyn deall a oedd yr uchelgais hwn yn realistig,
neu yn wir, ei angen.
Roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol. Fe wnaethom wedyn sicrhau grŵp ehangach o
arbenigwyr addysg i helpu i gwmpasu ac, yn y pen draw, ysgrifennu’r rhaglen.
Dysgwyd bod yn rhaid i’r rhaglen fod:
- Yn seiliedig ar y ‘cwricwlwm newydd’
- Yn hygyrch
- Wedi eu hysgrifennu ar gyfer addysgwyr, gan addysgwyr
- Yn adnodd ar gyfer datblygu’r iaith Gymraeg
-
Yn ddilys ar gyfer rygbi: o werthoedd y gêm gymunedol i oleuadau llachar stadiwm
Principality – mae cymaint o gynnwys cyfoethog ac amrywiol ynghlwm wrth URC y gellir
ei gymhwyso i unrhyw leoliad addysg.